Defnyddwyr Canolfan Penrallt
Defnyddir Canolfan Penrallt gan sawl grŵp cymunedol yn rheolaidd neu ar gyfer gweithgareddau achlysurol. Dyma rhai o'r grwpiau sy'n defnyddio ein cyfleustrau:
Defnyddwyr rheolaidd
- Cyrsiau Cymraeg - mae cwrs Wlpan a'i berthnasau, gan Ysgol Dysgu Gydol Oes Prifysgol Bangor, yn digwydd yma.
- Gwasanaethau cymdeithasol - mae dau gwrs Coginio a Bwyta yn defnyddio ein cegin, ac mae sesiynau Cyswllt Teulu yn digwydd yma yn rheolaidd.
- Grwpiau dawns - mae sawl grŵp dawns yn
cyfarfod yma, gan gynnwys:
- dawns bol (Nos Lun)
- dawns gwerin yr Alban (Nos Iau)
- TWF - mudiad i hybu tyfu plant yn ddwyieithog, yn rhedeg gweithgareddau yma yn aml.
- Clwb Mercher - clwb ar gyfer pobl hŷn, sy'n cyfarfod yma'r prynhawn Dydd Mercher olaf bob mis.
- Dosbarth Celf - grŵp sy'n dysgu technegau paentio mewn pastel gan arlunydd lleol Caroline Underhill.
- Cheeky Monkeys - grŵp ar gyfer rheini a'u plant bach sy'n cael ei rhedeg gan Eglwys Penrallt. Maen nhw'n cyfarfod bore Dydd Gwener bob wythnos yn ystod amser tymor ac yn croesawu unrhyw rhieni efo plant bach o'r cymuned lleol.
Defnyddwyr achlysurol
- Cymdeithasau'r Brifysgol - gan gynnwys Cymdeithasua Arabaidd, Siapaneaidd a Maleisiaidd - yn cynnal partïon yma weithiau.
- Unigolion preifat - yn cynnal partïon penblwydd a gweithgareddau eraill yma.
- Cymdeithas Ffilatelig Cymru - yn cyfarfod yma o dro i dro.
Archebu
Os hoffech chi archebu'r Canolfan, rhowch e-bost at Rheolwr Archebu, Mrs Gwyneth Brindley, ar canolfan@penrallt.org, gan gynnwys y gair booking yn llinell pwnc eich e-bost. Fedrwch chi ei chysylltu hefyd dros y ffôn ar 01248 352682. Os hoffech chi weld y cyfleusterau cyn archebu, croeso i chi galw i mewn ar foreau'r wythnos pan bydd swyddfa'r eglwys ar agor (gwelwch yma ar gyfer manylion o sut i dod o hyd i ni) neu cysylltwch â Gwyneth i wneud pwyntiad.
