Newyddion Penrallt Beth sy'n digwydd yng Nghapel Penrallt, Bangor http://www.penrallt.org/news_cy Magnus Forrester-Barker webmaster@penrallt.org © 2009 Eglwys Bedyddwyr Penrallt 2010-07-27T11:13:26+02:00 Sanctuary http://www.penrallt.org/news/archive/sanctuary.20100724_cy.txt 2010-07-27T11:13:21+02:00

Ar Nos Wener 27 Awst, o 7yh ymlaen, cynhelir y nesa yn ein cyfres rheolaidd misol o nosau addoliad tawel a gwrando. Mae Sanctuary yn digwydd yng nghapel Penrallt.

Efallai cân, efallai darlleniad, efallai cerddoriaeth tawel, efallai gair... yn bendant man tawel ar gyfer gwrando ar Dduw.

Datblygwch eich sgiliau gwrando ar yr Ysbryd Glân mewn awyrgylch tawel heb bwysau. Bydd cefnogaeth gweddi fel y bydd angen.

ENW http://www.penrallt.org/news/archive/enw.20100721_cy.txt 2010-06-08T11:34:34+02:00

Gwasanaeth Nos Sadwrn ydy ENW, sy'n cael ei rhedeg ym Mhenrallt gan pobl ifanc ar gyfer pobl ifanc (rhwng 11 ac 18 oed). Mae'n lle ymlaciedig ac anffurfiol er mwyn addoli Duw.

Bydd ENW nesaf ar Nos Sadwrn 2 Hydref. Agorir y drysiau am 6:30yh ac bydd y gwasanaeth ei hun yn rhedeg o 7 at 8yh. Wedyn bydd bwyd a cyfle i sgwrsio. Bydd y gwasanaeth yn cynnwys gemau, gweithgareddau gweddi, sgwrs byr a cerddoriaeth UCHEL. Cysylltwch ag ein gweithiwr ieuenctid, Freya os hoffech chi ragor o wybodaeth (DS. dydy hi ddim yn siarad Cymraeg).

Bontnewydd http://www.penrallt.org/news/archive/bontnewydd.20100718_cy.txt 2010-07-27T11:13:25+02:00

Ar (fel arfer) y prynhawn Sul cyntaf o bob mis, mae grŵp bach o Benrallt yn mynd i arwain gwasanaeth byr yn y cartref henoed ym mhentref Bontnewydd, ger Caernarfon. Mae'r gwasanaeth yn ddechrau am 2:15yh. Croeso cynnes i chi ymuno â ni. Mae angen cerddorion a siaradwyr Cymraeg arnom ni yn arbennig.

Mae gwasanaeth nesaf ym Montnewydd i fod i ddigwydd ar Ddydd Sul 1 Awst. Cysylltwch â swyddfa'r eglwys i gadarnhau bydd o'n digwydd, neu os hoffech chi ragor o wybodaeth.

811 http://www.penrallt.org/news/archive/babyENW.20100717_cy.txt 2010-07-13T13:14:08+02:00

811 ydy digwyddiad ar gyfer pobl rhwng 8 ac 11 oed. Cynhelir yng Nghanolfan Panrallt ar brynhawn Sadwrn ac yn cynnwys cerddoriaeth byw, gemau, gweithgareddau, sgwrs a gweddi. Cynhaliwyd y ddau ddigwyddiad cyntaf yn ystod yr haf ac bydd yr un nesaf yn yr hydref. Edrychwch yma ar gyfer dyddiad.

Gweddi a Panad http://www.penrallt.org/news/archive/panad.20100715_cy.txt 2010-07-27T11:13:26+02:00

Unwaith bob mis, mae gan dynion Penrallt cyfle i ddod efo'i gilydd i weddïo. Mae'r cyfarfodydd fel arfer yn digwydd ar Dydd Mercher cyntaf y mis am 10:30yb yn Ystafell Twrgwyn ym Mhenrallt. Mae o'n parhau am tua 45 munud. Wedyn, mi awn ni dros y ffordd ar gyfer panad o goffi.

Bydd Cyfarfod Gweddi a Panad nesa ar Ddydd Mercher 4 Awst.

Noson Lawen http://www.penrallt.org/news/archive/variety.20100629_cy.txt 2010-06-30T11:34:26+02:00

Bydd Noson Lawen Penrallt yn digwydd ar Nos Sadwrn 17 Gorffennaf o 7:30yh, i godi arian ar gyfer Careforce. Bydd aelodau talentog ein heglwys yn perfformio, a chroeso i bawb berfformio neu ddod i wylio ar y noswaith! Pris y tocynnau bydd £4 ar gyfer oedolion, £3 ar gyfer consesiynau a £2 ar gyfer pobl o dan 18 oed. Os hoffech chi gymryd rhan, gwelwch Freya neu anfonwch ebost ati hi (yn Saesneg) ar youth@penrallt.org.

Gohiriad Tehilla http://www.penrallt.org/news/archive/tehillapostponement.20100613_cy.txt 2010-06-13T14:33:03+02:00

Mae'r digwyddiad Tehilla, a oedd i fod i ddigwydd ar Nos Sadwrn 19 Mehefin, wedi'i ohirio gan fod rhai bobl allweddol yn methu dod. Does dim dyddiad newydd wedi'i gadarnhau eto - gwyliwch yma ar gyfer rhagor o wybodaeth.

Wythnos Gofalwyr 2010 http://www.penrallt.org/news/archive/carersweek.20100609_cy.txt 2010-06-09T11:48:49+02:00

I nodi Wythnos Gofalwyr, mae Penrallt yn cynnal gwasanaeth arbennig ar fore Dydd Sul 13 Mehefin am 10:30. Cydnabyddwn gwaith ac ymrwymiad y rhai sy'n gofalu am bobl eraill. Os ydych chi'n gofalwr am rywun, croeso mawr i chi ddod i'n gwasanaeth.

Tehilla http://www.penrallt.org/news/archive/Tehilla.20100527_cy.txt 2010-05-27T12:47:06+02:00

Croeso i bawb ymuno â cherddorion a chantorion Penrallt ar Nos Sadwrn 19 Mehefin am 7:30yh, pan bydden nhw'n dod at eu gilydd ar gyfer noson anffurfiol o fawl ac addoli trwy gerddoriaeth a gweddi, i addoli Duw, archwilio defnydd newydd ac i geisio wyneb Duw ar gyfer y dyfodol. Enw y digwyddiad ydy Tehilla, sydd yn air Hebraeg ar gyfer weithred o fawl digymell lle mae Duw yn preswylio - felly, does dim fformat gosodedig ar gyfer y noson! Dewch yn barod i rannu, canu, gweddïo neu dim ond gorffwys ym mhresenoldeb Duw.

"Canwch iddo gân newydd, trawch y tannau'n dda, rhowch floedd." — Salm 33:3

Revolution http://www.penrallt.org/news/archive/Revolution.20100515_cy.txt 2010-05-25T12:40:50+02:00

Rydym ni wedi ail-lansio ein gweithgareddau ieuenctid Nos Wener efo Revolution, grŵp i bobl o 12 i 18 oed sy'n cyfarfod bob yn ail Nos Wener o 7:30 i 10yh (ond does dim rhaid i ti aros tan y diwedd).

Y ddau ddigwyddiad cyntaf, ym mis Mawrth, roedd noson o gerddoriaeth (efo band diweddaraf Penrallt, Children of the Revolution, a chaneuon gan rhai o'n myfyrwyr) a noson gemau (gan ddefnyddio cyfrifiadur efo sgrîn mawr).

Wedi toriad bach ar gyfer Pasg, bydd Revolution yn parhau efo'r digwyddiadau canlynol cyn gwyliau'r haf:

23 Ebrill
Noson Coctels (di-alcohol)
7 Mai
Noson Ffilm
21 Mai
Noswaith Celfyddydau
4 Mehefin
Parti
Bydd tâl o £1 at costau rhedeg y grŵp.