Caffi Ffydd
Lle ar gyfer myfyrwyr ac oedolion ifanc eraill ydy Caffi Ffydd, lle medren nhw ddod efo'u gilydd i ymlacio wedi gwasanaeth y noswaith. Mae o'n rhedeg trwy tymhorau prifysgol y Hydref a'r Gwanwyn.
Fel arfer bydd noswaith dechrau yn fuan ar ôl gorffen gwasanaeth y noswaith (tua 7:15yh) ac yn gorffen tua 8:30yh. Mae o'n cynnig cyfle i sgwrsio dros bowlen cawl, panad a snaciau am ddim. Dros gwrs y noswaith, bydd fel arfer un neu fwy o'r pethau canlynol:
- eitem byr o gerddoriaeth (yn fyw)
- Siwrne Ffydd: cyfweliad efo rhywun am sut daethon nhw i ffydd, neu am eu profiad parhaol o gerdded efo Duw
- Ffydd ar Waith: cyfweliad efo rhywun am waith cyffrous bod nhw wedi bod yn wneud ar gyfer Duw
Unwaith bob tymor, rydym ni'n newid y patrwm a cyfarfod yn y neuadd ar gyfer pryd o fwyd cyflylm cyn dychwelyd i'r capel i dreulio tua awr mewn gweinyddiaeth ysbrydol i'n gilydd ac i Dduw mewn gweddi ac addoli mewn arddull Celtaidd.
