Defnyddwyr Canolfan Penrallt
Defnyddir Canolfan Penrallt gan sawl grŵp cymunedol yn rheolaidd neu ar gyfer gweithgareddau achlysurol. Dyma rhai o'r grwpiau sy'n defnyddio ein cyfleusterau:
Defnyddwyr rheolaidd
- Ballet - cynhelir dosbarthau pob nos Fawrth ar gyfer dechreuwyr a dawnswyr mwy profiadol.
- Côr Cymunedol Bangor - mae'r côr mawr cymysg hwn, sy'n canu caneuon o bedwar ban y byd, yn ymarfer yn ein neuadd ar Nos Fercher.
- Cymdeithas Albanaidd Sir Gaernarfon a Sir Fôn - dawns gwerin yr Alban ar Nos Iau rhwng Mis Medi a Mis Ebrill.
Defnyddwyr achlysurol
- Cymdeithasau'r Brifysgol - gan gynnwys Cymdeithasau Arabaidd, Japaneaidd a Maleisaidd - yn cynnal partïon yma weithiau.
- Gwasanaethau cymdeithasol - mae cyrsiau Coginio a Bwyta yn defnyddio ein cegin, ac mae sesiynau Cyswllt Teulu yn digwydd yma o dro i dro.
- Cymdeithas Ffilatelig Cymru - yn cyfarfod yma o dro i dro.
- Grwpiau dawns - gan gynnwys salsa a hip-hop/jive, weithiau yn cynnal sesiynau dawns yma.
- Unigolion preifat - yn cynnal partïon penblwydd a gweithgareddau eraill yma.
Archebu
Os hoffech chi archebu'r Canolfan, rhowch e-bost at canolfan@penrallt.org
neu ffoniwch 01248 353355. Os hoffech chi weld y cyfleusterau cyn archebu, croeso i chi galw i mewn ar foreau'r wythnos pan bydd swyddfa'r eglwys ar agor (gwelwch
yma ar gyfer manylion o sut i dod o hyd i ni) neu cysylltwch â ni i wneud apwyntiad.