Mae Alpha yn cyfle i wneud ffrindiau. I ymlacio, sgwrsio, cael hwyl, cael pryd o fwyd efo pobl efo pwy rydych chi'n cytuno a phobl efo pwy rydych chi'n anghytuno ond pwy, fel chi a fi, sy ddim yn siwr am beth ydy ystyr bywyd. Mae Alpha yn rhoi i ni i gyd gyfle i feddwl am Dduw, i ddarganfod mwy am Gristnogaeth ac i benderfynu os ydy o'n berthnasol i chi a fi.
Dyma flas ar Alpha (DS mae'r fideo hwn yn Saesneg a bydd yn cwrs ni yn bennaf trwy gyfrwng y Saesneg):
Mae Alpha yn rhedeg am tua 10 wythnos ac mae pob sesiwn yn cychwyn efo pryd o fwyd. Does dim tâl am y cwrs Alpha. Os dydych chi ddim yn hapus i gael eich bwydo am ddim pob wythnos, rydym ni'n awgrymu cyfrannu at banc bwyd lleol.
Ar ôl y lluniaeth, bydden ni'n gwrando ar ffilm wedi'i gynhyrchu gan dîm Alpha'r DU a wedyn bydden ni'n trafod y pwnciau ynddo. Mae'n debyg fydden ni'n mynd i mewn i grwpiau llai er mwyn i bawb gael cyfle i siarad. Mae rhaid i ni i gyd deimlo'n rhydd i ddweud beth rydym ni wir yn feddwl, ond i ffrindiau! Does dim byd rhy syml ac mae llawer o gwestiynau heb ymateb hawdd.
Mae Alpha ar gyfer pawb! Mae miliynau o bobl wedi ymuno a cwrs Alpha dros y 20+ blynyddoedd diwetha. Mae miloedd o eglwsi o bob fath ac enwad wedi rhedeg cyrsiau Alpha. Mae Alpha ar gyfer pawb, gan gynnwys chi, yn arbennig os hoffech chi archwilio'r ffydd Cristnogol am y tro cyntaf; os ydych chi'n newydd i eglwys a hoffech chi ddarganfod mwy amdano; os oeddech chi'n feddwl fod chi'n Cristion ond wedi anghofio pam dach chi'n credu; neu os ydych chi mewn penbleth oherwydd bywyd, rhyfeddu am oes 'na Duw a chwilio am ffrindiau i'ch helpu.
Mae pob cwestiwn yn derbyniol pan rydym ni'n sgwrsio efo'n gilydd, ac weithio does gan neb ymateb. Dyma teitlau'r ffilmiau a fydd yn cychwyn y trafodaethau:
Mae hi bellach yn rhy hir i ymuno â'r cwrs Alpha cyfrefol, a dechreuodd ar 30 Ionawr, ond gadewch i ni wybod os hoffech chi gael eich cysylltu wrth i ni redeg y cwrs nesaf.
I gysylltu â ni i ddarganfod mwy am Alpha ym Mhenrallt, siaradwch efo'r Gweinidog, y Parch John Thompson (e-bost minister@penrallt.org / ffôn 07931 150697) neu'r Gweinyddwr, Magnus Forrester-Barker (e-bost office@penrallt.org / ffôn 07934 231788).
Hefyd, ewch at wefan Alpha ar gyfer gwybodaeth fwy cyffredinol.