Corff o gredwyr Cristnogol rydym ni yn ardal Bangor yng Ngogledd Cymru, yn caru a chefnogi ein gilydd a'n cymuned cymaint â phosibl.
Croeso i chi archwilio'r wefan i gyd a chysylltu â ni — fasen ni wrth ein boddau i glywed gynnoch chi. Dewch yn ôl yn aml i weld diweddariadau. Ar y dudalen hon cewch hyd i rai lleoedd a gallai fod o ddiddordeb arbennig, ac mae'r holl wefan ar gael trwy'r ddewislen ar ben bob dudalen.
Mae ein grwpiau cartref yn cyfarfod arlein neu wyneb yn wyneb yn ystod yr wythnos ac yn darparu cyfle gwych i astudio'r Beibl, gweddïo a treulio amser efo'n gilydd. Os dydych chi ddim yn aelod o grŵp cartref yn barod, rydym ni'n eich annog chi'n gynnes i brofi un.
Dydd Sul 20 Hydref, 3 – 5yh. Dyma digwyddiad am ddim i'r teulu, lle byddem ni'n archwilio'r Creadigaeth trwy crefftau, gemau, gweithgareddau a phryd o fwyd. Mae'r gweithgareddau i gyd ar gyfer plant rhwng 3 ac 11 oed, ond mae meithrinfa i'r rhai bach yn ogystal â gemau a fydd yn apelio at bobl ifanc, felly dewch â'r holl deulu! Sylch bydd rhaid i bawb o dan 18 oed gael eu goruchwylio trwy'r amser am resymau gwarchod; yn yr un modd gwaherddir oedolion sy ddim yn mynd â phlant.
Man tawel lle mae'n iawn i beidio â bod yn iawn. Ar agor bob dydd Iau, 10:30yb – 12:30yh ar gyfer sgwrs, diddordebau cyffredin a chwmni. Lluniaeth am ddim. Croeso i bawb. Dewch i mewn.