Os ydych chi'n myfyriwr newydd, yn eich trwydedd flwyddyn, yn gwneud PhD... Ac os ydych chi'n Cristion, yn archwilio ffydd, neu oes gynnoch chi gwestiynau... croeso i bawb.
Yn Eglwys Bedyddwyr Penrallt, rydym ni am eich cefnogi chi gymaint â phosibl wrth i chi astudio ym Mangor.
Mae gennym gwasanaethau Sul, grwpiau tŷ, teithiau'r cymrodoriaeth, gweithgareddau cymdeithasol hunangymelliadol... a chroeso i chi ddod i gymaint neu gynlleied â hoffech chi.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu chi!
S'mae? Des i i Fangor yn 2018 i astudio Daearyddiaeth Ffisegol ac Eigioneg. Ro'n i wrth fy modd yma cymaint, fel llawer o bobl, mod i heb adael.
Mi fydda i'n cefnogi chi yn ystod eich amser yn y brifysgol ac ym Mhenrallt. Os ydych chi angen rhywbeth, hyd yn oed mor syml a cyfarfod am banad, darganfod gwybodaeth neu cais gweddi, anfonwch neges ata i.
E-bost: students@penrallt.org
Mae Bangor yn lle anhygoel i astudio. Yn ogystal â bod yn agos iawn at Parc Cenedlaethol Eryri, y hyfryd Ynys Môn a tref glan môr Llandudno, mae'n gyfoeth efo hanes a diwylliant ei hun. Mae hyn i gyd yn arwain at brofiad prifysgol hollol unigryw.
Anfonwch neges at Becca os hoffech chi wybod sut i gyrraedd y lleoedd hyn neu am ragor o leoedd gwych i'w harchwilio yn yr ardal!
Grwpiau cartref ydy'r ffordd perffaith i gysylltu efo'r eglwys yn ystod yr wythnos!
Yn cyfarfod ar-lein neu mewn tai, prif bwrpas ydy cyfarfod efo'n gilydd er mwyn nabod ein gilydd yn well, i astudio'r Beibl, i annog ein gilydd ac i gyd-weddïo.
Cysylltwch â Becca Williams os hoffech chi i ni'ch cysylltu chi â grŵp tŷ, neu os hoffech chi ddarganfod mwy.
Ar ddydd Sul cyntaf bob mis, rydym ni fel arfer yn cymryd mantais o'r ardal hyfryd i fynd am dro efo'n gilydd.
Mae'r rhain yn wych i archwilio'r ardal ac i dod i nabod teulu'r eglwys yn well.
Edrychwch allan am y diweddariad misol!