Gwasanaethau ym Mhenrallt

Gwasanaethau'r Bore

Mae oedfa'r bore am 10:30yb ar ddydd Sul.

Ar ddydd Sul 11 Ionawr y bregeth fydd y cyntaf mewn cyfres ar bwnc Our Vision and Mission: Being the light and love of Jesus; y pregethwr bydd Y Parch. John Thompson.

Os nad ydych chi'n gallu dod i'r adeilad am wasanaeth y bore, croeso i chi ymuno â ni ar Zoom. Bydd y cyfarfod Zoom fel arfer ar agor sawl munud cyn gychwyn yr oedfa ac bydd cyfle i chi siarad efo'r rhai eraill ar Zoom wedyn os hoffech chi.

Oherwydd y tywydd oer a chyfyngiadau ar ein system gwres, dan ni ddim yn medru sicrhau bydd yr adeilad yn gynnes iawn ar ddydd Sul. Dan ni'n trio ein gorau, ond dan ni'n awgrymu i chi wisgo dillad cynnes, neu i feddwl am ymuno ar Zoom os bydd yr oerni yn broblem i chi. Hefyd, dan ni'n awgyrmu edrych yma cyn teithio ar fore dydd Sul rhag ofn bod y sefyllfa wedi newid oherwydd y tywydd trwm.

Gwasanaethau Hwyrol

Mae'r oedfa hwyrol fel arfer am 6yh ar nos Sul, gan amrywiaeth o fformatiau bob wythnos. Yn wahanol i rhai'r bore, dydy'r rhain ddim fel arfer yn cael eu recordio neu ddarlledu ar Zoom.

Nos Sul yma, 11 Ionawr, y bregeth fydd Abraham: Sacrificial Faith (pregethwr: Peter Jones).

Rhagor o Wybodaeth

Gwelwch y tudalen newyddion misol am fanylion pellach y rhaglen mis yma.

Gwasanaethau yn y Gorffenol

Fel arfer, rydym ni ddim yn recordio'r oedfa hwyrol. Dydy fideos oedfaon y bore ddim ar gael yn gyhoeddus, ond cysylltwch â swyddfa'r eglwys os hoffech chi fynediad i recordiad gwasanaeth gorffennol.

Mae fideos y pregethau ar gael o hyd ar ein sianel YouTube. Cewch hyd i gysylltau i'r fideos yn ein archif pregethau, ynghŷd â recordiadau sain yn ôl at 2008, a nodiadau neu sleidiau ar gyfer rhai o'r pregethau. Sylwch fod rhai bregethau heb eu recordio.

Gwelwch beth rydym ni wedi bod yn canu yn ddiweddar gan edrych ar ein cronfa ddata caneuon:

Codi Mawl

Noson addoli dwyieithog yn Gymraeg a Saesneg, rhedir gan Caersalem (Caernarfon), Goleudy (Llangefni) a Penrallt (Bangor), efo mawl, gweddi, tystiolaeth a diolchgarwch. Croeso i bawb. Bydd yr un nesa ym Mhenrallt ar nos Sul 25 Ionawr am 7yh, efo lluniaeth ymlaen llaw o 6:30yh.

Cymdeithas Ar-lein
Oedfa'r bore ym Mhenrallt