Grwpiau Cartref

Mae grwpiau cartref yn rhan hanfodol o fywyd yr eglwys, gan adael i ni dod efo'n gilydd i weddïo, astudio'r Beibl a cael cymedeithas.

Mae'r rhan fwyaf o'n grwpiau cartref yn cyfarfod yn gorfforol, rhai eraill ar-lein, a rhai yn cymysgu'r ddau.

Mae gennym grwpiau sy'n cyfarfod nos Lun, nos Fawrth, nos Fercher a nos Iau ac ar fore dydd Mawrth a dydd Gwener. Y rhan fwyaf o'n grwpiau cartref sy'n cynnwys pobl o amrywiaeth o oedrannau a chefndiroedd. Mae'r grŵp nos Fawrth yn bennaf ar gyfer oedolion ifanc, ac mae un o'r grwpiau bore Gwener ar gyfer merched yn unig.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag unrhyw un o'r grwpiau cartref hyn, cysylltwch â swyddfa'r eglwys.

Pier Bangor