Beth sy'n Newydd ym Mhenrallt?

Cewch hyd i wybodaeth am Benrallt a manylion beth sy'n digwydd yn ein taflenni newyddion misol (yn Saesneg). Dyma'r taflen newyddion diweddaraf:

Mae taflenni hŷn ar gael o'r archif:

Uchafbwyntiau

Codi Mawl

Noson addoli dwyieithog yn Gymraeg a Saesneg, rhedir gan Caersalem (Caernarfon), Goleudy (Llangefni) a Penrallt (Bangor), efo mawl, gweddi, tystiolaeth a diolchgarwch. Croeso i bawb. Bydd yr un nesa ym Mhenrallt ar nos Sul 25 Ionawr am 7yh, efo lluniaeth ymlaen llaw o 6:30yh.

Codi Mawl

Alpha ym Mhenrallt

Cynhelir ein cwrs Alpha nesa ar nos Lun o 26 Ionawr am 11 wythnos, efo seibiant byr dros y Pasg. Croeso i bob oedolyn (a phob cwestiwn).

Alpha

Am wybodaeth ynglyn â digwyddiadau a gweithgareddau rheolaidd, gwelwch rhannau eraill y wefan hon neu edrychwch ar y daflen newyddion. Nodir newidiadau arwyddocaol ar y dudalen hon.

Croeso i chi gysylltu â swyddfa'r eglwys am ragor o fanylion. Os bydd eich porwr yn ei alluogi, defnyddiwch y botwm yma i anfon e-bost atom ni: