Pob dydd Iau o 10:30yb i 12:30yh byddem ni ar agor ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau a phanad. Croeso i unrhywun ddod â rhannnu hobi neu sgil a chroeso i bawb ymuno â gweithgaredd neu jyst picio i mewn am ran o'r amser. Mae'r gweithgareddau i gyd am ddim. Neu dewch i ymlacio a sgwrsio, neu i fwynhau'r heddwch yn ein ardal tawel. Mae lle gweddïo ar gael hefyd i'r rhai sydd eisiau ei ddefnyddio, ac bydd amserau opsiynol o weddi ar ddechrau a diwedd bob sesiwn. Mae lluniaeth am ddim hefyd.
Mae'r gweithgareddau wedi'u sefydlu ar '5 ffordd i les' sy'n hybu iechyd meddwl ac emosiynol da: cysylltu, rhannu, fod yn gweithgar, dal i ddysgu a cymryd sylw.
Mae croeso cynnes yma i chi.
Mae'r lle galw-i-mewn hon yn rhan o fudiad Renew Wellbeing ac mae hi wedi'i chofrestru fel Warm Welcome Space.