Canolfan Penrallt

Oriel Lluniau

Bydd y lluniau canlynol yn rhoi i chi flas ar y cyfleusterau sy ar gael yng Nghanolfan Penrallt.

Y Brif Neuadd

Prif Neuadd

Mae gan y brif neuadd llawr pren sy'n ddelfrydol ar gyfer dawnsio neu chwarae gemau.

Mae gennym hefyd nifer o fyrdd a chadeiriau (yn y cwpwrdd ar y chwith yn y llun) sy ar gael ar gyfer gweithgareddau.

Y Gegin

Cegin

Mae'r gegin yn fawr, efo popty mawr, microdon, oergell/rhewgell ac offer eraill, ac mae hi'n ddelfrydol ar gyfer paratoi panad o de neu bryd llawn o fwyd.

Yr Ystafelloedd Cyfarfod

Ystafell Twrgwyn

Mae dwy ystafell cyfarfod lai. Mae'r Ystafell Twrgwyn yn addas ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys celfyddydau.

Ystafell Uchaf

Mae'r Ystafell Uchaf, fel awgrymir yr enw, i fyny'r grisiau. Yn wir, mae hi uwchben y gegin, ac mae gynni hi ffenestri sy'n edrych dros y neuadd. Mae gan yr ystafell gadeiriau esmwyth a waliau chwaethus llwyd golau ac oren. Yn bennaf, mae'n lle cyfarfod i'n ieuenctid, a swyddfa i'n gweithiwr ieuenctid, ond mae o ar gael i'w logi weithiau dan drefniadau arbennig.

Y Feithrinfa

Meithrinfa

Mae ein meithrinfa yn llawn teganau, ac mae gynni hi sinc bach a thoiled ei hun.