Rydym ni'n awgrymu ymholi trwy e-bost (office@penrallt.org) neu ar ffôn (07934 231788; Llun - Gwener, 10yb - 4yh yn unig) cyn ymweld ag adeilad yr eglwys i sicrhau bydd rhywun yno ar y pryd.
D.S. mae'r dudalen hon yn sôn am leoliad ein hadeilad. Mae manylion cyswllt ar dudalen cyswllt.
Rydym ym Mangor Uchaf ar Ffordd Caergybi, rhwng cylchfan Morrisons a Ffordd y Coleg. Mae'r adeilad ar ochr dde os ydych yn mynd i fyny'r allt, neu ar ochr chwith os ydych yn mynd i lawr. Rydym ni tua dau ddrws i lawr o'r dafarn Belle Vue, sy'n sefyll wrth gornel Ffordd y Coleg.
Os ydych chi'n gyrru i Benrallt o unrhyw gyfeiriad a dydych chi ddim yn gyfarwydd efo Bangor, awgrymir dod ar yr A55 a'i gadael wrth Gyffwrdd 9 (yr un yn syth cyn Pont Britannia - neu yn syth ar ei hôl os ydych chi'n dod o Ynys Môn; dyma'r drydydd troad i Fangor os dewch chi o'r Dwyrain), gan ddilyn arwyddion i Fangor (A487, yn ymuno â'r A5 wrth dafarn yr Antelope). Wrth gyrraedd Bangor, mae'r ffordd yn mynd i'r dde ar ôl arwydd terfyn cyflymder 30mya. Yn fuan wedyn, fyddwch chi'n gweld troad i'r chwith, efo tafarn y Belle Vue ar y gornel. Mae'n hadeilad ni yn syth wedyn ar y chwith (ar y brif ffordd).
Ein côd post, ar gyfer eich Sat Nav ayyb., ydy LL57 2EU. Os hoffech chi ragor o gymorth efo cyfeiriadau, cysylltwch â swyddfa'r eglwys.
Sylwch fod gynnon ni ddim llefydd yn y maes parcio drws nesaf i'r eglwys, sy'n faes parcio talu ac ymddangos (tua £1/awr).
Mae gorsaf Bangor tua 5 munud i lawr yr allt ar droed, ac mae gwasanaethau eithaf aml i'r ddau gyfeiriad (sef, i Gaergybi neu i Landudno a Lloegr).
Mae sawl safle bws yn agos, wedi'u defnyddio gan amryw wasanaethau bws lleol.