Sut mae Penrallt?

Drws Penrallt

Mae Penrallt yn gyfeillgar ac yn rhoi croeso cynnes i bawb. Yma, mae bob math o bobl yn teithio efo'n gilydd mewn ffydd fel teulu'r eglwys. Rydym ni am dyfu mewn dealltwriaeth yn y ffydd Cristnogol, gan gyfarfod a Iesu, byw efo'n gilydd a gwasanaethau Duw yn y cymuned lleol ac yn y byd i gyd.

Mae ein gwasanaethau yn cael eu sefydlu ar air Duw, y Beibl. Dyma conglfaen ein ffydd ac rydym ni am fynd yn bellach ynddo i ddarganfod trysorau'r ysgrythur. Rydym ni'n ceisio hefyd sicrhau fod y bregeth bob tro yn berthnasol i'n bywyd bob dydd. Rydym ni am roi'r gogoniant i Dduw a chyfarfod efo fo trwy'r gair, addoli a gweddi. Rydym ni hefyd am brofi nerth Duw trwy ei Ysbryd Glan.

Mae Penrallt yn aelod Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr a'r Cynghrair Efengylaidd, yn ogystal â fod yn rhan o gymuned Bangor, Gwynedd (Gogledd Cymru) ac aelod CYTÛN Bangor (Eglwysi Ynghyd Bangor). Fel y cyfryw, rydym ni'n tanysgrifio i Ddatganiad Egwyddor Undeb y Bedyddwyr a Sylfain Ffydd y Cynghrair Efengylaidd, ynghŷd â Chredo'r Apostolion. Casglwyd yr rhain yn y dogfen PDF What We Believe.

Amser panad

Mae gennym grwpiau canol wythnos sy'n cyfarfod am gymrodoriaeth, i weddïo ac astudio'r Beibl, a hefyd i dreulio amser efo'n gilydd gan gwneud pethau bod ni'n eu mwynhau. Mae gennym hefyd grwpiau a gweithgareddau arbennig ar gyfer myfyrwyr ac ar gyfer plant a phobl ifanc. Rydym ni am gyfnewid a gwella pethau yn y cymuned lleol a'r byd ehangach, trwy wneud y Canolfan (neuadd yr eglwys) ar gael i'r cymuned a thrwy cefnogi elusennau lleol gan gynnwys banciau bwyd Bangor. Rydym ni hefyd yn cefnogi nifer o weithgareddau cenhadol ledled y byd, yn arbennig mewn gwledydd sy'n datblygu.

Symudon ni i'n hadeilad presennol ar Ffordd Caergybi yn 2005 o achos tyfiant ym maint y gynulleidfa. Fasen ni wrth ein boddau i'ch croesawu yma. Mae map a chyfeiriadau ar gyfer yr eglwys ar gael yma. Rydym ni wedi ysgrifennu dogfen fer (yn Saesneg) am hanes ein hadeilad (PDF).

Er mai eglwys Saesneg yw Penrallt yn bennaf, rydym o blaid yr iaith Gymraeg ac mae sawl ein haelodau yn siarad Cymraeg fel mamiaith. Rydym yn canu ein hemynau a chaneuon yn ddwyieithog cymaint â phosib ac yn cynnal rhai o'n digwyddiadau yn ddwyieithog neu yn Gymraeg. Croeso cynnes i siaradwyr ieithoedd eraill hefyd.

Gobeithiwn fod y wefan hon yn ddiddorol ac yn eich helpu. Croeso cynnes i chi gyslltu â ni os oes gynnoch chi gwestiynau neu sylwadau. Croeso cynnes i chi ymuno ag unrhyw un o'n gweithgareddau a teithio efo ni. Edrychwn ymlaen at eich cyfarfod yn fuan!

Pobl ym Mhenrallt