Staff
Y Gweinidog
"Mi ges i fy ngeni yn y Sblot, ond tragwyddoldeb yw fy nhynged."
Y Parch. Peter Cousins yw gweinidog Penrallt ers 1998. Cyn hynny, treuliodd 20 mlynedd ym Mrasil fel plannwr eglwysi ac addysgwr theolegol. Mi o wedi briodi i Susan, ac mae gennynt ddau blentyn wedi'u tyfu.
Os hoffech chi gysylltu â fo, anfonwch ebost ato ar minister@penrallt.org.
Cynorthwywr Bugeiliol
Mae'r Parch Geoffrey Birch wedi ymddeol yn ddiweddar i Ogledd Cymru o'i swyddfel Gweinidog Rhanbarthol yng Nghymdeithas Bedyddwyr Gorllewin Lloegr. Cyfaill Penrallt am gyfnod hir, mae Geoff bellach yn dod â'i brofiad bugeiliol eang i gefnogi Peter yn ei gyfrifoldebau bugeiliol a phregethu.
Y Gweinyddwr
Daeth Magnus Forrester-Barker i Fangor ym 1999 i wneud PhD mewn mathemateg, syrthiodd mewn cariad a'r ardal ac mae o wedi aros yma ers hynny. Mae o wedi bod yn gweithio fel gweinyddwr Penrallt (ac awdur y wefan) ers crewyd y swydd ym mis Medi 2005. Mae gynno fo hefyd swydd gwinyddol rhan-amser arall ac mae o'n chwarae sawl offeryn mewn dau band lleol (yn ogystal â grŵp cerddoriaeth Penrallt).
Gweithiwr Ieuenctid Blwyddyn Bwlch
Yn ddiweddar, mae gwaith ieuenctid Penrallt wedi tyfu tan inni gael weithiwr blwyddyn bwlch (sef, "gap year") i helpu efo gweithgareddau ieuenctid (ond maen nhw'n cymryd rhan mewn agweddau eraill bywyd yr eglwys hefyd). Dyma swydd un flwyddyn, wedi'i gefnogi gan Careforce.
Azen Narzary, sy'n dod o India, oedd ein gweithiwr ieuenctid yn 2007-08. O fis Medi 2008, Tim Phipps, cyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor, fydd y gweithiwr.
