Canolfan Penrallt Centre
Oriel Lluniau
Bydd y lluniau canlynol yn rhoi i chi flas ar y cyfleusterau sy ar gael yng Nghanolfan Penrallt. Cliciwch ar unrhyw un o'r lluniau i weld fersiwn fwy, ac wedyn defnyddiwch botwm yn ôl eich porwr i ddychwelyd i'r dudalen hon.
Y Brif Neuadd
Mae gan y brif neuadd llawr bren sy'n delfrydol ar gyfer dawnsio neu chwarae gemau. Mae gennym hefyd nifer o fyrdd a chadeiriau (yn y cwpwrdd ar y chwith yn y llun) sy ar gael ar gyfer gweithgareddau.
Y Gegin
Mae'r gegin yn fawr, efo pobty mawr, meicrodon, oergell/rhewgell ac offer eraill, ac mae hi'n ddelfrydol ar gyfer paratoi panad o de neu bryd llawn o fwyd.
Yr Ystafelloedd Cyfarfod
Mae ddwy ystafell cyfarfod llai. Mae'r Ystafell Twrgwyn yn addas ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys celfyddydau.
Mae'r Ystafell Uchaf, fel awgrymir yr enw, i fyny'r grisiau. Yn wir, mae hi uwchben y gegin, ac mae gynni hi ffenestri sy'n edrych dros y neuadd. Mae gan yr ystafell gadeiriau esmwyth a waliau chwaethus porffor, ac mae hi'n cael ei defnyddio fel lolfa teledu/DVD ynghŷd ag ystafell cyfarfod.
Y Crèche
Mae ein crèche yn llawn o deganau, ac mae gynni hi sinc bach a toiled ei hun.
