Canolfan Penrallt
Canolfan cymunedol ar gyfer Bangor Uchaf
Pan brynodd Penrallt yr hen Gapel Twrgwyn ar Ffordd Holyhead, penderfynwyd ddylai adran cefn yr adeilad gael ei wneud ar gael ar gyfer y cymuned. Felly ganwyd Canolfan Penrallt!
Prif amcan y Canolfan yw hybu, annog a datblygu teimlad o gymuned ym Mangor Uchaf a'r ardal o'i gwmpas gan ddarparu cyfleusterau ar gyfer grwpiau cymunedol ac eraill i gynnal cyfarfodydd a gweithgareddau sy'n hybu bywyd cymunedol. Mae'r adeilad wedi'i adnewyddu yn llwyr, a bellach medr o gynnig y cyfleusterau canlynol:
- neuadd fawr
- cegin fodern
- ystafelloedd cyfarfod bach
- meithrinfa a man chwarae gyda tŷ bach ei hun ar gyfer plant
- flipchart, bwrdd gwyn, taflunydd dros ysgwydd, taflunydd data
Defnyddir y Canolfan yn rheolaidd gan nifer o gwrpiau cymunedol. Hefyd, mae o ar gael i'w archebu gan grwpiau neu unigolion ar gyfer digwyddiadau unigryw. Ceir rhagor o wybodaeth am archebu yn ein taflen gwybodaeth PDF, a fedrwch chi ei llawrlwytho o'r fan yma yn Gymraeg (63kB) neu yn Saesneg (46kB).
Os hoffech chi archebu'r Canolfan, rhowch e-bost at Rheolwr Archebu, Mrs Gwyneth Brindley, ar canolfan@penrallt.org), gan gynnwys y gair booking yn llinell pwnc eich e-bost. Fedrwch chi ei chysylltu hefyd dros y ffôn ar 01248 352682. Os hoffech chi weld y cyfleusterau cyn archebu, croeso i chi galw i mewn ar foreau'r wythnos pan bydd swyddfa'r eglwys ar agor (gwelwch yma ar gyfer manylion o sut i dod o hyd i ni) neu cysylltwch â Gwyneth i wneud pwyntiad.
