Gweithgareddau Ieuenctid

Ym Mhenrallt rydym ni'n ymroddgar at ddarparu amrywiaeth eang o weithgareddau ar gyfer ein plant a phobl ifanc, gan gyndabod mai nhw ydy eglwys yfory ynghŷd â rhan bywydol o eglwys heddiw.

Dyddiau Sul

Mae gwasanaeth y bore yn dechrau gyda tua hanner awr o addoli i bob oedran. Wedi hyn, mae'r plant yn gadael y prif wasanaeth ar gyfer eu hysgolion Sul. Mae hefyd feithrinfa ar gyfer y plant ieuaf. Mae'r pobl ifanc o 14-18, yr A-Team, hefyd yn mynd allan ar gyfer eu hastudiaeth eu hun, fel arfer gyda coffi a thoesenni, yn hwyrach yn y gwasanaeth. Croeso i blant a phobl ifanc sy'n ymweld â ni gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn, a fydden nhw'n cael eu dangos at y grwp sy'n addas i'w hoed.

Canol wythnos

Y mae grwp cell ar gyfer pobl ifanc o 14-18 oed, sy'n cyfarfod bob yn ail wythnos ar nos Iau.

Mae gennym grŵp ieuenctid newydd sbon ar Nos Wener, ers mis Mawrth 2010. Mae Revolution ar gyfer bobl rhwng 12 ac 18 oed ac mae'n rhedeg bob yn ail wythnos, heblaw am wyliau. Mae bob digwyddiad yn rhedeg o 7:30 i 10yh, ond does dim rhaid i ti aros tan y diwedd.

Mae oedolion ifanc Penrallt weithiau yn gwahodd i'r pobl ifanc ddod at eu gweithgareddau. Yn arbennig, maen nhw'n cynnal caffi jazz nos Sadwrn bob hyn a hyn. lle medr pobl ifanc ddod i ymlacio, sgwrsio a bwyta tostïau a theisennau efo cefndir o jazz byw.

ENW

Dyma digwyddiad i bobl ifanc sydd am ddod i eglwys ond sy ddim yn teimlo fasen nhw'n ffitio i mewn yn gwasanaeth i oedolion. ENW yw gwasanaeth ieuenctid, fel arfer ar nos Sadwrn, sy'n cael ei redeg gan ac ar gyfer pobl ifanc Bangor a'r ardal. Mae gynno fo cymysgiad o gerddoriaeth da ac uchel, drama, ffyrdd creadigol o weddïo, sgwrsiau byr am y Beibl a sut i fyw fel Cristion (sdim pregethau trwm fan'ma), a llawer iawn o fwyd. Mae'r digwyddiad yn ddwyieithog yn gryf. Cyhnaliwyd yr un cyntaf ym mis Hydref 2006, efo sawl arall wedyn (yn bras, un bob tri mis).

Ar gyfer manylion y digwyddiad ENW nesa, gwelwch ein tudalen newyddion.


Am ragor o wybodaeth am unryw un o'n grwpiau neu weithgareddau ieuenctid, cysylltwch â swyddfa'r eglwys. Ceir manylion am weithgareddau penodol hefyd ar dudalen newyddion.