Alpha ym Mhenrallt

Gobeithiwn rhedeg ein cwrs Alpha nesa yn ystod yr hydref. Cysylltwch â swyddfa'r eglwys os hoffech chi gael wybod pan bydd manylion pellach ar gael.

Beth yw Alpha?

Mae Alpha yn cyfle i wneud ffrindiau. I ymlacio, sgwrsio, cael hwyl, cael pryd o fwyd efo pobl efo pwy rydych chi'n cytuno a phobl efo pwy rydych chi'n anghytuno ond pwy, fel chi a fi, sy ddim yn siwr am beth ydy ystyr bywyd. Mae Alpha yn rhoi i ni i gyd gyfle i feddwl am Dduw, i ddarganfod mwy am Gristnogaeth ac i benderfynu os ydy o'n berthnasol i chi a fi.

Dyma flas ar Alpha (DS mae'r fideo hwn yn Saesneg a bydd yn cwrs ni yn bennaf trwy gyfrwng y Saesneg):

Mae Alpha yn dechrau efo bwyd

Mae Alpha yn rhedeg am tua 12 wythnos ac mae pob sesiwn yn cychwyn efo pryd o fwyd. Does dim tâl am y cwrs Alpha. Os dydych chi ddim yn hapus i gael eich bwydo am ddim pob wythnos, rydym ni'n awgrymu cyfrannu at banc bwyd lleol.

Beth arall sy'n digwydd mewn sesiwn Alpha?

Ar ôl y lluniaeth, bydden ni'n gwrando ar ffilm wedi'i gynhyrchu gan dîm Alpha'r DU a wedyn bydden ni'n trafod y pwnciau ynddo. Mae'n debyg fydden ni'n mynd i mewn i grwpiau llai er mwyn i bawb gael cyfle i siarad. Mae rhaid i ni i gyd deimlo'n rhydd i ddweud beth rydym ni wir yn feddwl, ond i ffrindiau! Does dim byd rhy syml ac mae llawer o gwestiynau heb ymateb hawdd.

At bwy ydy Alpha?

Mae Alpha ar gyfer pawb! Mae miliynau o bobl wedi ymuno a cwrs Alpha dros y 20+ blynyddoedd diwetha. Mae miloedd o eglwsi o bob fath ac enwad wedi rhedeg cyrsiau Alpha. Mae Alpha ar gyfer pawb, gan gynnwys chi, yn arbennig os hoffech chi archwilio'r ffydd Cristnogol am y tro cyntaf; os ydych chi'n newydd i eglwys a hoffech chi ddarganfod mwy amdano; os oeddech chi'n feddwl fod chi'n Cristion ond wedi anghofio pam dach chi'n credu; neu os ydych chi mewn penbleth oherwydd bywyd, rhyfeddu am oes 'na Duw a chwilio am ffrindiau i'ch helpu.

Sylwch fod ein cwrs Alpha ar gyfer oedolion, ond rydym ni'n ystyried rhedeg cwrs Alpha neilltuol i bobl ifanc.

Beth mae Alpha'n ei drafod?

Mae pob cwestiwn yn derbyniol pan rydym ni'n sgwrsio efo'n gilydd, ac weithio does gan neb ymateb. Dyma teitlau'r ffilmiau a fydd yn cychwyn y trafodaethau:

  • Oes 'na fwy i fywyd na hyn?
  • Pwy yw Iesu?
  • Pam bu farw Iesu?
  • Sut fedra i gael ffydd?
  • Pam a sut ydw i'n gweddïo?
  • Pam a sut ddylwn i ddarllen y Beibl?
  • Sut mae Duw yn ein harwain?
  • Pwy ydy'r Ysbryd Glân?
  • Beth mae'r Ysbryd Glân yn ei wneud?
  • Sut fedra i gael fy llenwi gyda'r Ysbryd Glân?
  • Sut fedra i ddefnyddio gweddill fy mywyd i'r gorau?
  • Sut fedra i wrthsefyll drygioni?
  • Pam a sut ddylwn i ddweud wrth eraill?
  • Ydy Duw yn iacháu heddiw?
  • Beth am yr Eglwys?

Trafodir rhan fwyaf y themau hyn yn ystod y sesiynau Alpha wythnosol ond mae gennym hefyd diwrnod i ffwrdd ar ddydd Sadwrn yng nghanol y cwrs, lle trafodir sawl themau.

Hoffech chi ragor o wybodaeth?

I ddarganfod mwy am Alpha ym Mhenrallt, siaradwch efo'r Gweinidog, y Parch John Thompson (e-bost minister@penrallt.org / ffôn 07931 150697) neu dîm Alpha ar alpha@penrallt.org, neu galwch ar Magnus ein gweinyddiwr ar 07934 231788.

Hefyd, ewch at wefan Alpha ar gyfer gwybodaeth fwy cyffredinol.

Alpha Logo