Cewch hyd i wybodaeth am Benrallt a manylion beth sy'n digwydd yn ein taflenni newyddion misol (yn Saesneg). Dyma'r taflen newyddion diweddaraf:
Mae taflenni hŷn ar gael o'r archif:
Dyma digwyddiad am ddim i'r teulu, lle byddem ni'n archwilio thema Nadolig trwy crefftau, gemau, gweithgareddau a phryd o fwyd. Mae'r gweithgareddau i gyd ar gyfer plant rhwng 3 ac 11 oed, ond mae meithrinfa i'r rhai bach yn ogystal â gemau a fydd yn apelio at bobl ifanc, felly dewch â'r holl deulu! Sylwch bydd rhaid i bawb o dan 18 oed gael eu goruchwylio trwy'r amser am resymau gwarchod; yn yr un modd gwaherddir oedolion sy ddim yn mynd â phlant.
Noson addoli dwyieithog yn Gymraeg a Saesneg, rhedir gan Caersalem (Caernarfon), Goleudy (Llangefni) a Penrallt (Bangor), efo mawl, gweddi, tystiolaeth a diolchgarwch. Croeso i bawb. Bydd yr yn nesa yng Ngoleudy ar nos Sul 30 Tachwedd am 7yh, efo lluniaeth ymlaen llaw o 6:30yh.
Am wybodaeth ynglyn â digwyddiadau a gweithgareddau rheolaidd, gwelwch rhannau eraill y wefan hon neu edrychwch ar y daflen newyddion. Nodir newidiadau arwyddocaol ar y dudalen hon.
Croeso i chi gysylltu â swyddfa'r eglwys am ragor o fanylion. Os bydd eich porwr yn ei alluogi, defnyddiwch y botwm yma i anfon e-bost atom ni: