Myfyrwyr

Croeso i Fangor. Dyma lle gwych i astudio — tre fach sy'n dod yn campws i fyfyrwyr yn amser tymor. Golygfa brydferth a llawer i'w wneud, ynghŷd â cyrsiau da, sy'n wneud hwn yn lle delfrydol i dreulio tair neu fwy o flynyddoedd yn astudio. Ond cymwch ofal - wedi i chi ddod yma mae'n bosib iawn fyddwch chi byth am adael!

Beth rydym yn cynnig

Oedolion Ifanc

Mae tri grwp cartref ar gyfer oedolion ifanc - cymysgiad o fyfyrwyr a professiynolion. Mae un ohonynt yn cyfarfod ar Nos Fawrth, fel arfer ym Mangor, a'r lleill yn cyfarfod ar Nos Iau, un ym Mangor a'r llall ym Methesda. I ddarganfod mwy, cysylltwch â Magnus ar office@penrallt.org.

Maen nhw i gyd yn cyfarfod efo'u gilydd o dro i dro, fel arfer ar nos Sadwrn, ar gyfer The Main Thing efo pobl ifanc Penrallt. Fel arfer, mae'r nosweithiau hyn yn cymryd ffurf caffi jazz, efo cerddoriaeth fyw, llawer o te, choffi a snaciau (gan gynnwys tostïau a theisennau). Weithiau maen nhw'n wneud pethau gwahanol. Edrychwch ar ein tudalen newyddion i weld os oes rhywbeth i ddod yn fuan.

Caffi Ffydd

Caffi Fydd ydy sesiwn wedi'r gwasanaeth hwyrol sydd yn bennaf ar gyfer myfyrwyr, ond mae croeso i oedolion ifanc (a dim mor ifanc) eraill yn cymryd rhan hefyd. Mae'n amser i sgwrsio a gwneud ffrindiau newydd dros banad a chawl, efo rhaglen amrywiol o gerddoriaeth byw a chyfweliadau byr. Unwaith y tymor bydden ni'n cael sesiwn hirach, lle aethon ni yn ddyfnach yn ysbrydol. DS - dim ond yn ystod tymhorau hydref a gwanwyn y brifysgol (yn fras, Hydref at Ebrill gyda toriad ar gyfer Nadolig) mae Caffi Ffydd yn rhedeg.

Dolennau defnyddiol

Dyma rhai ddolennau sydd efallai o ddiddordeb arbennig i fyfyrwyr. Gwelwch ein tudalen dolennau ar gyfer dolennau o ddiddordeb mwy cyffredinol.