Corff o gredwyr Cristnogol rydym ni yn ardal Bangor Uchaf yng Ngogledd Cymru, yn caru a chefnogi ein gilydd a'n cymuned cymaint â phosibl.
Ein gweledigaeth yw bod yn oleuni cariad Crist ar ben yr allt, gan roi gogoniant i Dduw a gwneud Iesu yn hysbys.
Croeso i chi archwilio'r wefan i gyd, a chysylltu â ni — fasen ni wrth ein boddau i glywed gynnoch chi. Dewch yn ôl yn aml i weld diweddariadau. Ar y dudalen hon cewch hyd i rai lleoedd a gallai fod o ddiddordeb arbennig, ac mae'r holl wefan ar gael trwy'r ddewislen ar ben bob dudalen.
Dydd Sul 12 Gorffennaf, 3 – 5yh. Dyma digwyddiad am ddim i'r teulu, lle byddem ni'n archwilio'n thema trwy crefftau, gemau, gweithgareddau a phryd o fwyd. Mae'r gweithgareddau i gyd ar gyfer plant rhwng 3 ac 11 oed, ond mae man chwarae i'r rhai bach yn ogystal â gemau a fydd yn apelio at bobl ifanc, felly dewch â'r holl deulu! Sylwch bydd rhaid i bawb o dan 18 oed gael eu goruchwylio trwy'r amser am resymau gwarchod; yn yr un modd gwaherddir oedolion sy ddim yn mynd â phlant.
Nos Sul 12 Gorffennaf, 7yh.
Noson addoli dwyieithog yn Gymraeg a Saesneg, rhedir gan Caersalem (Caernarfon), Goleudy (Llangefni) a Penrallt (Bangor), efo mawl, gweddi, tystiolaeth a diolchgarwch. Croeso i bawb. Bydd yr un nesa ym Mhenrallt ar nos Sul 12 Gorffennaf am 7yh, efo lluniaeth ymlaen llaw yn y neuadd, o 6:30yh.
Mae ein grwpiau cartref yn cyfarfod arlein neu wyneb yn wyneb yn ystod yr wythnos ac yn darparu cyfle gwych i astudio'r Beibl, gweddïo a treulio amser efo'n gilydd. Os dydych chi ddim yn aelod o grŵp cartref yn barod, rydym ni'n eich annog chi'n gynnes i brofi un.