Sut i ddod o hyd i ni
DS mae'r dudalen hon yn sôn am sut i ffeindio ein hadeilad. Gwelwch tudalen cyswllt ar gyfer manylion cyswllt.
Adeilad yr eglwys
Rydym ym Mangor Uchaf ar Ffordd Caergybi, rhwng cylchfan Morrisons a Ffordd y Coleg. Mae'r adeilad ar ochr dde os ydych yn mynd i fyny'r allt, neu ar ochr chwith os ydych yn mynd i lawr.
Parcio
Rydym ni'n llogi 6 lle yn y maes parcio drws nesa i'r eglwys. Mae'r rhain ar gael i'r henoed a phobl gydag anableddau i'w defnyddio yn ystod gwasanaethau Dydd Sul ac yn gallu cael eu defnyddio gan ymwelwyr yn ystod yr wythnos. Mae ein llefydd ni yn nghefn y maes parcio, i'r dde, pan ewch chi i mewn ac mae arwyddion arnynt.
Defnyddio cludiant cyhoeddus
Mae gorsaf Bangor tua 5 munud i lawr yr allt ar droed, ac mae gwasanaethau eitha aml i'r ddau gyfeiriad (sef, i Gaergybi neu i Landudno a Lloegr).
Mae sawl safle bws yn agos, wedi'u defnyddio gan amryw gwasanaethau bws lleol.
Cewch lawrlwytho amserlenni bysiau a thrennau oddi wrth Cyngor Gwynedd.
Map Bangor
Cliciwch ar y map i'r dde i'w weld yn fwy (defnyddiwch botwm yn ôl ar eich porwr i ddychwelyd i'r dudalen hon wedyn.
Cewch chi lawrlwytho cyfeiriadau mwy manwl at Benrallt yn y ddogfen pdf hon (2.3MB) DS dim ond yn Saesneg ydy'r ddogfen, mae'n ddrwg gennym.. Mae hon yn gynnwys sawl map lliwgar ac yn gallu gael ei hargraffu yn ddwblochrog ar A4.
Hefyd, dyma map Google o'r ardal, efo mwy o fanylion a llun lloeren:
View Larger Map
